Mae’r llyfr hwn yn dal amrywiaeth lliwiau a thymhorau Tirlun Cymru ac yn cynnig gwledd ddarluniadol o’r wlad i bawb gael ei mwynhau. Mae’n portreadu’r bobl hynny sy’n gweithio ar y tir a’r rhai sy’n mwynhau ei bleserau eithriadol yn ystod eu hamser hamdden.
Bydd delweddau trawiadol yn eich tywys i lawer o leoliadau sy’n ysbrydoli ar hyd a lled Cymru
O ddringo mynyddoedd mawreddog Eryri, marchogaeth ceffylau ar Fannau urddasol Brycheiniog a syrffio ar arfordir dramatig Sir Benfro hyd at atyniadau tynerach yr iseldiroedd a dyffrynnoedd rhamantus yr afonydd, fu’n gynhaliaeth i’r Cymry ar hyd y canrifoedd.
Nid yw’r rhain ond yn rhai o’r themâu a glodforir drwy luniau gan ffotograffwyr Photolibrary Wales yn y llyfr rhyfeddol hwn. Bydd y rhai sy’n adnabod Cymru yn siwr o weld lleoedd cyfarwydd mewn ffordd newydd – bydd eraill yn cael eu hysbrydoli i ddarganfod trysorau lu y wlad ryfeddol hon drostynt hwy eu hunain.
Yn y llyfr, rhoddir awgrymiadau teithio a gweithgareddau ar gyfer pob lleoliad fel y gall y darllenydd ddilyn yn ôl traed y ffotograffwyr a ddaliodd y golygfeydd rhyfeddol hyn gyda’u camerâu. Mae mapiau wedi’u cynnwys a cheir cyfraniad arbennig gan yr Athro Michael Bassett ar ddaeareg Cymru.
Mae manylion defnyddiol wedi’u cynnwys hefyd ar gyfer twristiaid sy’n bwriadu ymweld – neu ar gyfer y rheiny a fydd yn teithio i’r tirlun o’u cadair freichiau gysurus gyda chopi o’r golwg hanfodol hwn ar Gymru yn gwmni iddynt.
- Dros 110 o ffotograffau gan 36 o ffotograffwyr
- Penawdau llun estynedig
- Gwybodaeth am deithio a gweithgareddau
- Daeareg Cymru gan Yr Athro Michael Bassett
- Map